Digon yw dy air i'm harwain
Dy air sy(dd) ddigon i fy arwain

(Llusern y gair / Buddioldeb Gair Duw)
Dy air sydd ddigon i fy arwain,
  Trwy'r anialwch maith yn mlaen,
Mae e'n golofn olau eglur,
  Weithiau o niwl, ac weithiau o dân;
    Llusern yw, olau, wiw,
  I oleuo'n deg
        holl deulu Duw.

Dal fi'n gadarn nes y delo'r
  Amser hyfryd i'm rhyddhau,
O wasgfeuon trymion groesau,
  I'th dragwyddol lawn fwynhau;
    Dyna'r pryd, gwyn fy myd,
  Y derfydd fy ngofidiau i gyd.

              - - - - -

Dy air sydd ddigon i fy arwain,
  Trwy'r anialwch maith yn mlaen;
Mae yn golofn oleu, eglur,
  Weithiau niwl, ac weithiau tân;
    Llusern yw, oleu wiw,
  Oleua'n deg holl deulu Duw.

Af ym mlaen, a doed a ddelo,
  Tra fo hyfryd eiriau'r nef
Yn cyhoeddi iachawdwriaeth
  Lawn, o'i enau sanctaidd ef;
    Nid yw grym, gelyn llym,
  At ei ras
        anfeidrol ddim.

              - - - - -
              1,2;  1,3.

Digon yw dy air i'm harwain
  Trwy'r anialwch maith yn mlaen;
Mae yn golofu oleu, eglur -
  Weithiau'n niwl, ac weithiau'n dân;
Llusern yw, oleu, wiw,
I oleuo teulu Duw.

Os yw adsain pell Dy eiriau
  Yn gwneyd imi lawenhau,
O! mor hyfryd fydd yr oriau
  Pan gaf mwyach Dy fwynhau;
    O! 'r fath wledd, draw i'r bedd,
  Fydd cael eddrych ar Dy wedd!

Af yn mlaen, a doed a ddelo,
  Tra b'o
        hyfryd eiriau'r nef
Yn cyhoeddi iachawdwriaeth
  Lawn, o'i enau sanctaidd Ef:
Nid yw grym gelyn llym, 
At dy ras anfeidiol ddim.
William Williams 1717-91

Tôn [8787337]:
Allein's (<1835)
Arnsberg/Neander (Joachim Neander 1650-80)
Groeswen (J A Lloyd 1815-74)
Priscilla (D J James 1743-1831)

gwelir:
  Af ym mlaen a doed a ddelo
  Mae dy air yn abl fy arwain
  O fy enaid nac anghofia
  O gad im i'n fuan Arglwydd

(The lantern of the word / The Benefit of the Word of God)
Thy word is sufficient to lead me,
  Through the vast desert onwards,
It is a pillar of clear light,
  Sometimes of fog, and sometimes of fire;
    A lantern it is, of light, worthy,
  To lighten fairly
        the whole family of God.

Keep me firm until the delightful
  Time comes to free me,
From tight places of heavy crosses,
  To enjoy thee eternally fully;
    That is the time, blessed am I,
  All my griefs will pass away.

                 - - - - -

Thy word is sufficient to lead me,
  Through the vast desert onwards;
It is a pillar of clear light,
  Sometimes fog, and sometimes fire;
    A lantern it is, a worthy light,
  That lights fairly all the family of God.

I shall go forward, come what may,
  While ever the words of heaven be
Announcing full
  Salvation from its sacred mouth;
    No force, even of a keen enemy,
  Is anything against
      his immeasurable grace.

                 - - - - -


Sufficient is thy word to lead me
  Through the vast desert forwards;
It is a pillar of light, clear -
  Sometimes fog, and sometimes fire;
    A lantern it is, light, worthy,
  To lighten the family of God.

If the distant echo of thy words is
  Making me rejoice,
O how delightful shall be the hours
  When I get evermore to enjoy thee;
    O what a feast, beyond the grave,
  To get to look upon thy countenance!

I will go forwards, come what may,
  While ever there are
        the delightful words of heaven
Announcing full
  Salvation, from His holy mouth:
    The force of the keen enemy is not,
  To thy immeasurable grace, anything.
tr. 2015,21 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~